Dyma gyfrol fechan yn y gyfres Llyfr Goleuo'r Dudalen, llyfr a grwyd yn Saesneg gan Carron Brown ac Alyssa Nassner ac a addaswyd gan Elin Meek. Mae'r syniad yn un syml iawn, sef defnyddio papur cymharol denau lle gellir gweld print tywyll oddi ar gefn y dudalen pan fo honno'n cael ei dal at y golau. Mae'r llun cyntaf yn enghraifft ragorol gwelir y goeden yn ei dail ar y dudalen gyntaf, ond o ddal y darlun at y golau daw brigau moel yr ail dudalen i'r golwg gan ddangos y goeden yn foel a diaddurn. Y mae amryw o'r cyfuniadau yn hynod ddeniadol a daw madfall a llyffant a phryfed genwair a phob math o greaduriaid i'r golwg unwaith mae'r ddalen yn cael ei chodi at y golau. Law yn llaw 'r darluniau clir y mae mymryn o destun llawn gwybodaeth ddefnyddiol. Rhyr testun gyflwyniad clir i fyd gwyddonol ar gyfer plant cymharol ifanc, ac mae pytiau o wybodaeth hynod ddifyr fydd yn deffro chwilfrydedd y plant a'u rhieni. Yn ychwanegol, fel atodiad i'r gyfrol, ceir dwy dudalen o wybodaeth ychwanegol am yr anifeiliaid a'r planhigion. Dyma gyfrol werthfawr fydd yn gyflwyniad rhagorol i fyd gwyddonol. John Roberts Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru
Ask a Question About this Product More... |